Achos llys arweinwyr Llywodraeth Catalwnia, 2019

Achos llys arweinwyr Llywodraeth Catalwnia, 2019
Delwedd:Tribunal Supremo, Madrid.jpg, Endavant Cuixart 10.jpg
Enghraifft o'r canlynoltrial Edit this on Wikidata
Rhan oCatalan independence process Edit this on Wikidata
Dechreuwyd30 Hydref 2017 Edit this on Wikidata
Daeth i ben14 Hydref 2019 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganTrial 9-N of Artur Mas, Joana Ortega and Irene Rigau Edit this on Wikidata
LleoliadPalacio de Justicia Edit this on Wikidata
Prif bwncrefferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017 Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethSbaen Edit this on Wikidata
RhanbarthMadrid Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Yr Uchel -Lys ym Madrid.
Carme Forcadell
Meritxell Borràs
Dolors Bassa
Dde: Josep Lluís Trapero, Cyn-Bennaeth y Mossos
Chwith: Carles Puigdemont

Achos llys yn Uwch Lys Sbaen yw achos llys arweinwyr Llywodraeth Catalwnia a ddechreuodd ar 12 Chwefror 2019. Mae'r 18 diffynnydd bron i gyd yn gyn-aelodau o gabined Llywodraeth Catalwnia ac yn cynnwys Carme Forcadell (Arlywydd Senedd Catalwnia), Jordi Sànchez (Llywydd Cyngres Genedlaethol Catalwnia) a Jordi Cuixart (Llywydd yr Òmnium Cultural). Cânt eu herlyn am nifer o droseddion honedig gan gynnwys hybu annibyniaeth y wlad, gwrthryfela a chamddefnydd o arian cyhoeddus (neu 'embeslad') a wariwyd pan drefnodd Llywodraeth Catalwnia Refferendwm ynghylch annibyniaeth yn Hydref 2017.

Barnwr yr achos yw Manuel Marchena.[1][2] Yn y cyfamser, mae Carles Puigdemont yn parhau yn alltud yng Ngwlad Belg, lle mae'n rhydd i wneud sylwadau ar faterion gwleidyddol Catalwnia, gan gynnwys yr achos hwn.

Mae Amnest Rhyngwladol, y Cenhedloedd Unedig a nifer o gyrff a sefydliadau eraill wedi mynegi eu pryder fod Sbaen wedi torri hawliau dynol yr amddiffynion.[3][4].

Mae'r Erlynydd yn ymgorffori erlynwyr y cyrff canlynol:

  1. Swyddfa Erlynydd Gwladwriaeth Sbaen
  2. Erlynydd y Wladwriaeth
  3. Plaid asgell-dde Sbaen, Vox
  1. "The trial of Catalan referendum leaders casts a long shadow over the EU's credibility". www.euronews.com. Cyrchwyd 2019-02-09.
  2. Congostrina, Alfonso L. (2019-02-01). "Catalan independence leaders moved to Madrid jails ahead of trial". El País (yn Saesneg). ISSN 1134-6582. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-03. Cyrchwyd 2019-02-09.
  3. https://www.amnesty.org/en/documents/eur41/7308/2017/en/
  4. http://www.ohchr.org/en/NewsEvents/Pages/DisplayNews.aspx?NewsID=22772&LangID=E

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy